Met Caerdydd v Cambrian a Clydach – yn fyw ar S4C

met v cambrian

Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel MG rhwng Met Caerdydd a Cambrian a Clydach – nos Sadwrn ar S4C.

Mae’r ddau glwb yn edrych i gipio eu tlws cyntaf ym mhêl-droed Cymru yn ogystal ag edrych i hawlio tlws cynta’r tymor.

Hwn fydd yr achlysur mwyaf yn holl hanes clwb Cambrian a Clydach o’r cymoedd, tra bydd Dr Christian Edwards a’i fyfyrwyr yn gobeithio mynd un yn well na’r tymor diwethaf, pan gollodd Met yn y ffeinal yn erbyn y Seintiau.

Dylan Ebenezer sy’n cyflwyno, gyda cyn-chwaraewyr Cymru Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yn ymuno ag o ar Barc Jenner ar gyfer yr holl gyffro.