Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd – Facebook Live

trail gemau byw
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 16 Medi 2019, 12:19

Bydd camerâu Sgorio yn darlledu’r gêm rhwng Met Caerdydd a’r Seintiau Newydd yn fyw o Gampws Cyncoed nos Lun, 16 Medi am 20:00 ar Facebook, Youtube a gwefan S4C.

Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd | Nos Lun – 20:00 Facebook Live
Nos Lun bydd dau o’r ceffylau blaen yn cwrdd ar Gampws Cyncoed gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r myfyrwyr a’r Seintiau ar ôl pum gêm o’r tymor newydd.

Enillodd Met Caerdydd o 4-1 yn eu gêm gartref ddiwethaf yn erbyn y Seintiau ym mis Medi diwethaf, sef eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn criw Croesoswallt.

Honno oedd colled drymaf y Seintiau yn y Cymru Premier ers colli 5-2 yn erbyn Bangor ar benwythnos agoriadol tymor 2017/18.

Ildiodd y Seintiau 31% o’u goliau cynghrair y tymor diwethaf yn erbyn Met Caerdydd (5/16).

Mae Met yn un o dri chlwb sydd heb golli dim un o’u pum gêm agoriadol, ond roedd Christian Edwards yn rhybuddio ei hogiau o fod yn or-hyderus yn dilyn eu gêm gyfartal yn erbyn Caerfyrddin y penwythnos diwethaf.

Record cynghrair:
Met Caerdydd: ➖✅✅✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅❌✅✅✅