Met Caerdydd yn curo Caernarfon i gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle

Met Caerdydd v Y Barri
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 11 Mai 2019, 21:01

Met Caerdydd yn curo Caernarfon ar Yr Oval 2-3 i ennill eu lle yn rownd derfynol y gemau ail gyfle. Bydd Myfyrwyr Met yn wynebu’r Bala ar Faes Tegid yn y rownd derfynol dydd Sul nesaf am eu lle yn Ewrop.

Er i Gaernarfon orffen yn y 4ydd safle yn Uwch Gynghrair Cymru yn eu tymor cyntaf yn ôl yn y brif adran ers naw mlynadd, fe gollodd y Cofis yn rownd derfynol y gemau ail gyfle i Met Caerdydd orffennodd yn y 7fed safle.

Bydd Met Caerdydd yn cystadlu yn rownd derfynol y gemau ail gyfle am y trydydd tymor yn olynol – gyda’r Myfyrwyr yn colli yn y rownd derfynol yn y ddau dymor diwethaf.

Llwyddodd y Cofis i fynd ar y blaen, Darren Thomas yn penio heibio Will Fuller yn y gôl.

Ymysg y dathlu fe ddisgynnodd y wal tu ôl i’r gôl – gyda’r gêm yn cael ei atal am rhai munudau er mwyn sicrhau diogelwch y cefnogwyr.

Yn fuan cyn yr egwyl sgoriodd Met Caerdydd i unioni’r sgôr, gwyriad yn gyrru ergyd Chris Baker heibio Alex Ramsay, golwr Caernarfon.

Sgoriodd Adam Roscrow i roi’r Myfyrwyr ar y blaen cyn i Kyle McCarthy ymestyn y fantais

Sgoriodd Nathan Craig o’r smotyn, ond gôl gysur oedd hi wrth i Met Caerdydd ennill y gêm 2-3.

Bydd Met Caerdydd yn wynebu’r Bala ar Faes Tegid prynhawn Sul nesaf (19/05) yn rownd derfynol y gemau ail gyfle am le yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf.