Met Caerdydd yn sicrhau eu lle yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl curo’r Bala ar giciau o’r smotyn. Bydd bechgyn Christian Edwards yn cynrychioli’r Uwch Gynghrair yn gemau gyn-ragbrofol Cynghrair Europa dros gyfnod yr Haf.
Llwyddodd Met Caerdydd i guro’r Bala 1-3 ar giciau o’r smotyn yn rownd derfynol y gemau ail gyfle i selio eu lle yn rownd gyn-ragbrofol Cynghrair Europa.
Roedd Met Caerdydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y ddau dymor diwethaf ond i golli ddwywaith yn erbyn Bangor a Derwyddon Cefn.
Sgoriodd Henry Jones i’r Bala i agor y sgorio cyn i Eliot Evans unioni’r sgôr i’r myfyrwyr, ac felly arosod hi am weddill y 90 munud – gyda’r gêm yn mynd i amser ychwanegol.
Fe ddoth y nail dîm yn agos at sgorio yn amser ychwanegol, Chris Baker y taro’r trawst i Met Caerdydd a Mike Hayes yn taro’r trawst i’r Bala, ond fe arhosodd hi yn 1-1 ar drwy’r 90 ac amser ychwanegol.
Methodd Y Bala dair gic o’r smotyn yn olynol cyn i Anthony Stephens rwydo i dîm Colin Caton, ond llwyddodd Met sgorio dwy o’u pedwar cyfle cyn i Eliot Evans rwydo’r gic fuddugol i yrru tîm Christian Edwards i Ewrop am y tro cyntaf y neu hanes.
Bydd myfyrwyr Met Caerdydd yn ymuno â’r Barri o Uwch Gynghrair Cymru yn rownd gyn-ragbrofol Cynghrair Europa.