Met Caerdydd yn ennill Cwpan Nathaniel MG 2018/19

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 19 Ion 2019, 23:22

Met Caerdydd yn cipio eu tlws cyntaf ac yn ennill Cwpan Nathaniel MG mewn buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Cambrian a Clydach ar Barc Jenner. Uchafbwyntiau o’r rownd derfynol ar Sgorio nos Lun am 5:45.

Llwyddodd Adam Roscrow i roi y myfyrwyr ar y blaen wedi 40 munud o chwarae.

Daeth Cambrian a Clydach yn agos i sgorio yn fuan yn yr ail hanner ond y golwr, Alex Lang yn arbed ergyd Sam Jones.

Cafodd y tîm o ail haen y pyramid sawl cyfle i unioni’r sgôr, ond doedd hi ddim i fod i’r clwb o Gwm Clydach.

Sgoriodd Roscrow i’w ail gôl yn y funud olaf i selio’r fuddugoliaeth hanesyddol i fechgyn Dr Edwards.

Rhyddhad enfawr i’r myfyrwyr ar ôl iddyn nhw golli i’r Seintiau Newydd yn y rownd derfynol y llynedd.