Michael Bakare yw chwaraewr y tymor Uwch Gynghrair Cymru

NCM_2520
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 2 Meh 2019, 22:03

Cafodd asgellwr Cei Connah ei wobrwyo fel Chwaraewr y Tymor yn seremoni diwedd tymor Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn. Cafodd Momodou Touray, sydd wedi bod ar fenthyg yn Y Barri o Gasnewydd, ei enwi yn Chwaraewr Ifanc y Tymor gyda rheolwr Y Seintiau Newydd, Scott Ruscoe yn cipio’r wobr am Reolwr y Tymor ar ôl ennill y bencampwriaeth a Cwpan Cymru JD.