Mwy o Sgorio

Sgorio
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 9 Ion 2019, 11:11

Mae Mwy o Sgorio yn ol, a’n adduned Flwyddyn Newydd yw mwy o fyd y bel gron. Ar y rhaglen gyntaf bydd capten Cymru, Ashley Williams yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur i’r tim cenedlaethol. Anghofiwch am y Bonheddwr – Boneddigesau sydd yn Y Bala. Byddwn yn cael cip tu ol y llenni gyda’r merched sy’n cadw trefn ar Faes Tegid. A phwy fydd yn ‘Cicio’r Bwced’? Yr her newydd i glybiau Cymru. Yn cadw cwmni i Dylan Ebenezer bydd cyn ymosodwr Cymru, Malcolm Allen a’r actor Rhodri Meilir.

Mwy o Sgorio, nos Fercher am 6:30 ar S4C.