Mwy o Sgorio

MoS
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 6 Chw 2019, 09:56

Mei Emrys, y cerddor a cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Malcolm Allen fydd yn ymuno â Dylan Ebenezer ar soffa Mwy o Sgorio. Iwan Roberts, cyn ymosodwr Norwich fu’n sgwrsio hefo amddiffynwr presennol Ipswich, James Collins cyn y gêm ddarbi fawr dydd Sul yn Carrow Road. Byddwn yn ceisio setlo dadl ddifyr o hanes byd y bel gron – pwy yw’r clwb hynaf yng Nghymru?

Yn ogystal, bydd cipolwg ar Uwch Gynghrair Cymru JD i gyfeiliant trac cyfoes Cymraeg a Merched Llandudno fydd yn ceisio maestroli her Cicio’r Bwced a chawn glywed pwy yw enillydd Gôl y Mis ar gyfer Ionawr.