Mwy o Sgorio – Mercher, 22:00

Sgorio
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 15 Mai 2019, 16:55

Eitem arbennig iawn o’r Iseldiroedd wrth i seren ifanc Cymru Matt Smith gael ei holi gan y gohebydd Bryn Law am ei dymor ar fenthyg yn FC Twente. Bydd cyfle i glywed am obeithion y chwaraewr ifanc canol cae am ei ddyfodol gyda Man City yn ogystal â tharo golwg ymlaen i gemau rhagbrofol Cymru ym mis Mehefin. Bydd Dylan Ebenezer, Malcolm Allen a gwestai arbennig yn rhoi byd y bêl gron yn ei le, wrth i’r gemau ail gyfle Ewropeaidd fynd rhagddynt yn Uwch Gynghrair Cymru JD.