Mwy o Sgorio – Mercher am 21:30

Sgorio
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 8 Hyd 2019, 15:23

Ymunwch â Dylan Ebenezer a chyn-ymosodwr Cymru, John Hartson ar gyfer pennod arbennig o Mwy o Sgorio ar drothwy wythnos allweddol o bêl-droed rhyngwladol. Nos Fercher am 21:30 ar S4C.

Gyda Chymru’n wynebu Slofacia a Croatia dros y dyddiau nesaf, bydd y diweddaraf gan garfan Ryan Giggs i’w glywed ar y rhaglen. Bydd Nicky John yn dod â’r lliw lleol o Trnava ar noswyl gêm enfawr Cymru a bydd cyfle i drin a thrafod yr ymgyrch hyd yma mewn manylder a chlywed barn cewri’r byd pêl-droed yng Nghymru. Sgyrsiau ac eitemau gyda blas rhyngwladol yng nghwmni Dylan Ebenezer.