Mwy o Sgorio – Nos Fercher am 10

MoS
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 23 Ebr 2019, 14:42

Mae cwmni Dylan Ebenezer ac Owain Tudur Jones ar Mwy o Sgorio’r wythnos hon yn wyneb cyfarwydd ar yr ystlys mewn gemau ar draws Cymru – gohebydd Sgorio, Nicky John. Bydd y criw yn ymateb i ganlyniad darbi Manceinion yn ogystal â thrafod holl straeon mawr yr wythnos o fyd y bêl gron. Bydd eitemau difyr i’w gweld yn cynnwys golwg tu ôl i’r llenni yng nghylchgrawn poblogaidd Mundial, yn ogystal â chyffro Uwch Gynghrair Cymru a her Cicio’r Bwced.