Mwy o Sgorio – Nos Fercher am 10.

MoS
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 17 Ebr 2019, 09:04

Jake Phillips, chwaraewr Cei Connah, yw cwmni Dylan Ebenezer a Malcolm Allen ar soffa Mwy o Sgorio’r wythnos hon, i drafod y straeon mawr ym mhêl-droed Cymru. Bydd eitem arbennig o rownd derfynol Cwpan Merched Cymru i’w gweld yn ogystal â hanes cynghrair anarferol iawn yng Nghaerdydd. Cawn weld y diweddaraf o Uwch Gynghrair Cymru JD i gyfeiliant trac yr wythnos, tra bydd tîm arall yn ceisio curo her Cicio’r Bwced.