Partick Thistle v Cei Connah

NCM_3772-640×360
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 11 Hyd 2019, 12:04

Gêm fyw o bedwaredd rownd Cwpan Her yr Alban yn fyw o Firhill yn ninas Glasgow. Ar ôl cyrraedd y rownd derfynol y llynedd a churo Kilmarnock yn Ewrop, mae Cei Connah wedi cael blas ar guro timau mawrion yr Alban.

Yr her y tro hwn yw Partick Thistle – un o glybiau enwocaf y wlad. Gyda Partick wedi cael dechrau cythryblus i’w tymor, bydd yr Albanwr balch Andy Morrison a’i dîm yn gobeithio creu sioc unwaith yn rhagor dros y ffin.

Yr holl gyffro yng nghwmni Dylan Ebenezer a’r tîm.

Yn fyw ar S4C am 17:00 brynhawn Sadwrn – gyda’r gic gyntaf am 17:15.