Rhagolwg penwythnos Cymru Premier JD

NCM_3772-640×360

Hanner ffordd trwy fis Hydref ac mae chwarter clybiau Uwch Gynghrair Cymru JD yn dal heb eu curo y tymor hwn.

Nos Wener, 18 Hydref

Derwyddon Cefn v Caernarfon | Nos Wener – 19:45
Dim ond tridie ers eu gêm galed yn erbyn Cei Connah, mae’r Cofis yn gwneud y daith i’r dwyrain unwaith yn rhagor i herio Derwyddon Cefn.

Ar ôl wyth gêm gynghrair heb golli daeth y rhediad i ben i Gaernarfon yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy nos Fawrth (Cei 4-2 Cfon).

Mae’r Derwyddon ar rediad o saith gêm heb fuddugoliaeth (cyfartal 2, colli 5), a dechrau’r rhediad hwnnw oedd eu gêm gyfartal ar yr Oval ym mis Awst (Cfon 1-1 Cefn).

Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ❌➖❌❌❌
Caernarfon: ✅✅✅✅❌

Caerfyrddin v Aberystwyth | Nos Wener – 20:00 S4C
Bydd Caerfyrddin yn benderfynol o drechu Aberystwyth nos Wener er mwyn sicrhau eu buddugoliaeth cyntaf yn UG Cymru y tymor hwn.

Er methu ac ennill dim un o’u 10 gêm agoriadol, byddai triphwynt i’r Hen Aur yn eu codi o waleod y tabl, dros nos o leiaf.

Ond bydd Aberystwyth yn ysu am y pwyntiau hefyd gan nad yw’r Gwyrdd a’r Duon wedi ennill dim un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf.

Record cynghrair diweddar:
Caerfyrddin: ➖❌❌❌❌
Aberystwyth: ❌❌❌➖➖

Dydd Sadwrn, 19 Hydref

Airbus UK v Y Drenewydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae nifer wedi son bod y gynghrair fwy neu lai wedi ei sortio o ran pwy fydd am sicrhau lle yn y Chwech Uchaf, ond bydd Y Drenewydd yn awyddus o newid hynny a chau’r bwlch o bum pwynt sydd rhwng y Robiniaid a’r 6ed safle.

Ar ôl colli saith o’u 10 gêm agoriadol bydd Airbus yn gweld y gêm hon fel cyfle i gamu ymhellach o’r ddau isaf.

Bydd Chris Hughes yn gobeithio am gystal canlyniad a’r tro diwethaf i’w dîm ymweld â’r Maes Awyr gyda’r Drenewydd yn chwalu Airbus ym mis Ebrill 2017 (Air 0-7 Dre).

Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ❌❌✅➖❌
Y Drenewydd: ✅➖❌❌✅

Met Caerdydd v Cei Connah | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae dau o’r clybiau sydd heb golli y tymor yma yn cwrdd yng Nghampws Cyncoed ddydd Sadwrn gyda Cei Connah yn gweld cyfle i ddringo i’r copa.

Mae hi wedi bod yn wythnos hir i’r Nomadiaid gollodd eu gêm gwpan yn Partick Thistle y penwythnos diwethaf cyn curo Caernarfon gartref nos Fawrth.

Dyw Met Caerdydd erioed wedi ennill gêm gynghrair yn erbyn Cei Connah a gyda’r myfyrwyr ond wedi ennill un o’u chwe gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth bydd hi’n her i hogiau Christian Edwards ddydd Sadwrn.

Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ➖➖✅➖➖
Cei Connah: ✅➖✅✅✅

Pen-y-bont v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl tair colled yn olynol roedd y Seintiau yn ôl i’w hen arferion y penwythnos diwethaf wrth i’r pencampwyr daro chwech yn erbyn Airbus.

Er hynny, dyw’r pencampwyr heb gadw llechen lân yn eu naw gêm gynghrair ddiwethaf a bydd hynny’n newyddion calonogol i fechgyn Rhys Griffiths.

Gyda dim ond un buddugoliaeth hyd yma, mae Pen-y-bont yn dechrau’r penwythnos yn safleoedd y cwymp.

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ❌❌✅❌➖
Y Seintiau Newydd: ➖✅❌❌✅

Y Bala v Y Barri | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl pythefnos o seibiant mae ceffylau blaen Y Barri yn anelu i ddal eu tir ar y brig y penwythnos yma.

Mae’r Bala yn un o ddim ond dau dîm i sichrau pwynt yn erbyn Y Barri yn gynharach y tymor hwn (Barri 2-2 Bala).

Wedi pedair buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth mae’r Bala’n llawn hyder a bydd prif sgoriwr y cynghrair Chris Venables yn gobeithio ychwanegu at ei 10 gôl hyd yma.

Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ❌❌✅✅✅
Y Barri: ➖✅✅✅✅

Bydd uchafbwyntiau gemau’r penwythnos i’w gweld ar Sgorio ddydd Llun am 5:30 ar S4C.