Rhagolwg penwythnos Cymru Premier JD

Barry Vs Carmarthen Away36

Y Barri a Met Caerdydd yn gobeithio agor bwlch ar y brig dros y penwythnos.

Dydd Sadwrn, 7 Medi

Aberystwyth v Airbus UK | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl colli eu pedair gêm agoriadol bydd Airbus yn benderfynol o beidio gadael Coedlan y Parc yn waglaw ddydd Sadwrn.

Er colli’n drwm yn erbyn Y Seintiau Newydd yn eu gêm gartref ddiwethaf (1-10), mae Aberystwyth yn dechrau’r penwythnos yn y Chwech Uchaf ar ôl ennill dwy o’u pedair gêm gynghrair hyd yma.

Airbus oedd yn fuddugol yn y gêm ddiwethaf rhwng y clybiau, yn ennill 1-2 ar Goedlan y Parc ‘nôl yn Hydref 2017 yn ail rownd Cwpan Nathaniel MG.

Record cynghrair:
Aberystwyth: ✅❌❌✅
Airbus UK: ❌❌❌❌

Caerfyrddin v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Met Caerdydd yn hafal ar bwyntiau gyda’r Barri ar y brig ar ôl ennill tair a chael un gêm gyfartal hyd yma.

Gyda 10 pwynt o’u pedair gêm gyntaf, dyma’r dechrau gorau erioed i Met Caerdydd yn y brif adran.

Dim ond un pwynt sydd gan yr Hen Aur ar ôl colli yn erbyn Aberystwyth, Y Drenewydd a’r Barri a chael gêm gyfartal yn erbyn Cei Connah.

Mae’r dair gêm ddiwethaf rhwng y clybiau yma wedi bod yn rhai agos gyda’r naill dîm na’r llall yn llwyddo i sgorio fwy nac unwaith (Met 1-0 Cfin / Cfin 1-0 Met / Met 1-1 Cfin)

Record cynghrair:
Caerfyrddin: ❌❌➖❌
Met Caerdydd: ➖✅✅✅

Pen-y-bont v Y Bala | Dydd Sadwrn – 14:30
Unwaith eto roedd Pen-y-bont yn siomedig o golli’r penwythnos diwethaf ar ôl perfformiad oedd yn haeddu o leiaf pwynt yn erbyn y pencampwyr.

Mae tîm Rhys Griffiths wedi sgorio ym mhob un o’u pedair gêm gynghrair hyd yma, ond dim ond un pwynt sydd gan Pen-y-bont.

Llithrodd Y Bala o’r copa yn dilyn eu colled yn erbyn Cei Connah nos Wener diwethaf, ond er hynny mae hi wedi bod yn ddechrau cadarnhaol i griw Colin Caton y tymor yma.

Record cynghrair:
Pen-y-bont: ❌❌➖❌
Y Bala: ✅✅➖❌

Y Barri v Caernarfon | Dydd Sadwrn – 14:30
Y Barri sy’n dechrau’r penwythnos ar frig y tabl, yn hafal ar bwyntiau gyda Met Caerdydd ac heb golli’n y cynghrair y tymor yma.

Roedd ‘na ddathlu gwyllt gan y Cofi Army ar y Maes Awyr nos Wener ar ôl i Gaernarfon sicrhau buddugoliaeth hwyr yn erbyn Airbus (2-3).

Enillodd Y Barri dair o’u pedair gêm yn erbyn Caernarfon y tymor diwethaf.

Record cynghrair:
Y Barri: ✅✅➖✅
Caernarfon: ❌➖➖✅

Bydd uchafbwyntiau holl gemau’r penwythnos i’w gweld ar Sgorio ddydd Llun am 5:35 ar S4C.