Rhagolwg penwythnos olaf UG Cymru

cfon
Cai Thomas

Cai Thomas

Dydd Iau, 25 Ebr 2019, 09:29

Mae’n benwythnos olaf Uwch Gynghrair Cymru ac mae Caernarfon yn llygadu’r 4ydd safle tra bod Y Drenewydd a’r Bala’n brwydro i chwarae gartref yn y gemau ail gyfle.

Nos Wener, 26 Ebrill

Caerfyrddin v Aberystwyth | Nos Wener – 19:45

Yn dilyn y fuddugoliaeth ar Y Graig y penwythnos diwethaf, mae’r Hen Aur wedi codi uwch ben Derwyddon Cefn i nawfed safle yn UGC. Dyma’r tro cyntaf i Gaerfyrddin ennill tair gêm gynghrair yn olynol eleni.

Mi fydd Aberystwyth yn sicr o fod yn siomedig ar ôl colli yn erbyn Met Caerdydd y penwythnos diwethaf – y golled yn golygu fod bechgyn Matthew Bishop wedi methu allan ar safle yn y gemau ail gyfle am y pedwerydd tymor yn olynol.

Er hynny, bydda ennill nos Wener yn gadael Aberystwyth ar 47 o bwyntiau – eu nifer uchaf yn y gynghrair mewn pedwar tymor.

Dyw Aber heb ennill ar Barc Waun Dew yn UGC ers Medi 2016 (0-5). Sgoriodd Geoff Kellaway hatric yn y gêm yma, rhywbeth dyw’r ymosodwr heb fedru ailadrodd ers hynny!

Gemau diwethaf:
Aberystwyth 3-2 Caerfyrddin (08/03/19)
Aberystwyth 1-1 Caerfyrddin (30/11/18)
Caerfyrddin 2-2 Aberystwyth (22/09/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Caerfyrddin: ❌❌✅✅✅
Aberystwyth: ✅✅✅➖❌

Llandudno v Derwyddon Cefn | Nos Wener – 19:45

Doedd Llandudno ddim yn chwarae fel tîm oedd wedi syrthio’r penwythnos diwethaf – buddugoliaeth o bedair gôl i ddim ar Barc Stebonheath oedd y tro cyntaf i Tudno ennill yn UGC ers mis Chwefror!

Mi fydd yr Hynafiaid yn gobeithio codi yn ôl i nawfed safle ar y penwythnos – os yw Aber yn trechu Caerfyrddin, bydda bwynt yn ddigon i godi Derwyddon uwch ben yr Hen Aur.

Dyw Llandudno erioed wedi curo Derwyddon Cefn gartref yn Uwch Gynghrair Cymru.

Gemau diwethaf:
Derwyddon Cefn 2-2 Llandudno (08/03/19)
Llandudno 0-0 Derwyddon Cefn (26/10/18)
Derwyddon Cefn 2-1 Llandudno (01/09/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Llandudno: ➖❌❌❌✅
Derwyddon Cefn: ➖✅✅➖❌

Met Caerdydd v Llanelli | Nos Wener – 19:45

Wedi’r fuddugoliaeth enfawr yn erbyn Aberystwyth y penwythnos diwethaf, mae Met Caerdydd wedi sicrhau’r seithfed safle yn ogystal â chyfle i gyrraedd Ewrop drwy’r gemau ail gyfle.

Mi fydd Met yn chwarae oddi cartref yn erbyn y tîm sy’n gorffen yn bedwerydd.

Mae Llanelli’n edrych fel tîm sy’n awyddus i’r tymor ddarfod – y golled yn erbyn Llandudno’r penwythnos diwethaf yn golygu fod hi bellach yn ddeg gêm heb ennill yn UGC i’r Cochion.

Dyw Llanelli erioed wedi curo Met yn Uwch Gynghrair Cymru.

Gemau diwethaf:
Llanelli 0-4 Met Caerdydd (08/03/19)
Met Caerdydd 4-0 Llanelli (14/12/18)
Llanelli 0-2 Met Caerdydd (12/10/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Met Caerdydd: ✅✅❌✅✅
Llanelli: ❌❌❌❌❌

Y Bala v Caernarfon | Nos Wener – 19:45

Am gêm enfawr i’r Canerîs – bydda bwynt ar Faes Tegid yn ddigon i sicrhau’r pedwerydd safle i’r Cofis yn ogystal â’u gemau ail gyfle ar yr Oval! Mantais a hanner gan ystyried fod 9/13 o fuddugoliaethau’r Cofis yn UGC wedi dod gartref y tymor hwn!

Os yw’r Drenewydd yn colli ar Barc Jenner, bydda fuddugoliaeth i’r Bala yn eu codi i’r bumed safle – felly gêm ddiddorol ar y gorwel nos Wener.

Dyw’r Bala erioed wedi curo’r Cofis yn Uwch Gynghrair Cymru.

Gemau diwethaf:
Caernarfon 1-0 Y Bala (08/03/19)
Y Bala 1-3 Caernarfon (12/01/19)
Caernarfon 2-2 Y Bala (05/10/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Y Bala: ❌❌❌❌✅
Caernarfon: ✅❌✅✅❌

Y Barri v Y Drenewydd | Nos Wener – 19:45

Mae dal diferyn o obaith i’r Drenewydd orffen yn bedwerydd safle – rhaid i fechgyn Chris Hughes ennill o ddwy gôl, ac mi fydd rhaid i’r Cofis golli o ddwy gôl er mwyn i hyn ddigwydd.

Y gêm gyfartal yn erbyn Cei Connah y penwythnos diwethaf yn golygu fod y Barri wedi sicrhau’r drydydd safle – tymor anghredadwy i fechgyn Gavin Chesterfield.

Ond dyw’r Drenewydd heb gael lot o hwyl ar Barc Jenner dros y blynyddoedd – dyw’r Robiniaid heb guro’r Barri oddi cartref yn UGC ers tymor 2000-01!

Gemau diwethaf:
Y Drenewydd 3-0 Y Barri (09/03/19)
Y Barri 4-1 Y Drenewydd (01/12/18)
Y Drenewydd 2-0 Y Barri (06/10/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Y Barri: ❌✅✅❌➖
Y Drenewydd: ✅❌❌❌❌

Y Seintiau Newydd v Cei Connah | Nos Wener – 19:45

Gyda’r bencampwriaeth eisoes wedi ei benderfynu, mae’r gêm nos Wener yn rhagolwg ar gyfer Rownd Derfynol Cwpan Cymru wythnos nesaf.

Mae’r Seintiau ar dân yn y gynghrair – heb golli gêm UGC ers mis Tachwedd (0-1 vs Caernarfon, 09/11/18)!

YSN hefyd wedi ennill 13 o’u 14 gêm ddiwethaf yn y gynghrair gan sgorio 58 ac ildio dim ond 4 yn y cyfnod yma – record ardderchog.

Y Nomadiaid heb fod cystal yn ddiweddar – wedi ennill dim ond dwy o’u pum gêm ddiwethaf yn UGC.

Gemau diwethaf:
Cei Connah 0-2 Y Seintiau Newydd (09/03/19)
Y Seintiau Newydd 3-0 Cei Connah (20/10/18)
Cei Connah 1-0 Y Seintiau Newydd (19/08/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Cei Connah: ❌✅❌✅➖

Bydd uchafbwyntiau holl gemau UG Cymru i’w gweld ar Sgorio bob prynhawn Llun am 5:35 ar S4C.