Rhagolwg penwythnos UG Cymru

Mae dau o’r tri uchaf yn mynd benben brynhawn Sadwrn wrth i’r Seintiau groesawu’r Barri i Neuadd y Parc, tra bo Cei Connah yn brysur yn cystadlu yn rownd gynderfynol Cwpan Irn Bru.

Nos Wener, 15 Chwefror

Derwyddon Cefn v Aberystwyth | Nos Wener – 19:45
Mae’r Derwyddon yn dal i ddisgwyl am eu buddugoliaeth gyntaf yn 2019 ar ôl rhediad o saith gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth.

Death eu buddugoliaeth ddiwethaf oddi cartref yn erbyn Aberystwyth ym mis Rhagfyr a gyda dim ond chwe phwynt yn gwahanu’r Derwyddon a’r ddau isaf, mae angen triphwynt ar hogiau Huw Griffiths nos Wener.

Roedd Aberystwyth ar rediad o wyth gêm heb fuddugoliaeth cyn curo Llanelli y penwythnos diwethaf.

Mae’r Derwyddon wedi ennill eu tair gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth.

Gemau diwethaf:
Aberystwyth 0-2 Derwyddon Cefn (21/12/18)
Derwyddon Cefn 1-0 Aberystwyth (05/10/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Derwyddon Cefn: ❌❌➖➖❌
Aberystwyth: ❌❌❌➖✅

Llanelli v Caerfyrddin | Nos Wener – 19:45
Gyda wyth gêm i fynd tan diwedd y tymor mae Llanelli’n parhau i fod chwe phwynt o dan diogelwch y 10fed safle ar ôl ennill dim ond un o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf.

Dyw Caerfyrddin heb ennill ar Barc Stebonheath ers Medi 2005.

Bydd blaenwr Caerfyrddin, Liam Thomas yn dechrau ei 200fed gêm yn UG Cymru nos Wener – yn rhyfeddol, mae Thomas wedi dechrau 122 o gemau yn olynol yn UG Cymru ers Ebrill 2015.

Bu’r Hen Aur yn euog o ddefnyddio chwaraewr anghymwys mewn gêm yn erbyn Llanelli ar ddydd Calan ac mae’n bosib y bydd y clwb yn cael eu cosbi am hynny yn y dyddiau nesaf.

Gemau diwethaf:
Caerfyrddin 2-0 Llanelli (01/01/19)
Llanelli 1-1 Caerfyrddin (26/12/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Llanelli: ❌✅❌➖❌
Caerfyrddin: ✅❌✅✅❌

Dydd Sadwrn, 16 Chwefror

Met Caerdydd v Llandudno | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Met Caerdydd wedi ennill 3-0 ym mhedair o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf, yn cynnwys eu gêm oddi cartref yn Llandudno.

Daeth rhediad hunllefus Llandudno i ben y penwythnos diwethaf gan iddyn nhw guro Caerfyrddin i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn UG Cymru ers ennill ar Gampws Cyncoed ym mis Medi.

Mae Met Caerdydd ddau bwynt yn glir yn y 7fed safle a bydd y myfyrwyr yn gobeithio cyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle am y trydydd tymor yn olynol.

Gemau diwethaf:
Llandudno 0-3 Met Caerdydd (12/01/19)
Met Caerdydd 0-1 Llandudno (16/09/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Met Caerdydd: ✅✅✅❌✅
Llandudno: ➖❌❌➖✅

Y Drenewydd v Caernarfon | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Drenewydd yn dal i aros am eu buddugoliaeth cyntaf yn 2019, ac ar ôl colli 5-0 yn Neuadd y Parc y penwythnos diwethaf, bydd Chris Hughes yn disgwyl ymateb gan ei garfan brynhawn Sadwrn.

Fe ildiodd Caernarfon chwe gôl yn erbyn Cei Connah nos Wener diwethaf i ddod a’u rhediad o bedair buddugoliaeth yn olynol i ben.

Dyw Caernarfon heb ennill gêm gynghrair ar Barc Latham ers mis Tachwedd 2006.

Gemau diwethaf:
Caernarfon 0-3 Y Drenewydd (19/10/18)
Y Drenewydd 2-0 Caernarfon (17/08/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Y Drenewydd: ✅❌➖❌❌
Caernarfon: ➖✅✅✅❌

Y Seintiau Newydd v Y Barri | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd y pencampwyr yn ysu i fachu’r cyfle i gael dringo yn ôl i frig y tabl y penwythnos yma.

Mae’r Seintiau Newydd ar garlam, wedi ennill chwe gêm gynghrair yn olynol gan sgorio 28 o goliau (4.7 gôl y gêm) ac heb ildio unwaith!

Enillodd y Seintiau’n gyfforddus yn eu gêm ddiwethaf gartref yn erbyn Y Barri (5-1) a tîm Scott Ruscoe yw’r unig glwb i ennill oddi cartref yn erbyn Y Barri yn UGC y tymor yma.

Byddai buddugoliaeth i’r Seintiau yn eu codi i frig y tabl, tra byddai triphwynt i’r Barri yn eu codi uwchben YSN i’r ail safle, a byddai gêm gyfartal yn golygu bod Cei Connah yn aros ar y copa.

Gemau diwethaf:
Y Barri 0-2 Y Seintiau Newydd (17/11/18)
Y Seintiau Newydd 5-1 Y Barri (12/08/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Y Barri: ✅❌✅✅❌

Bydd uchafbwyntiau holl gemau UG Cymru i’w gweld ar Sgorio bob prynhawn Llun am 5:30 ar S4C.