Rhagolwg penwythnos UG Cymru

PB624-2018-15

Yng nghanol prysurdeb y gemau rhyngwladol a chyffro Cwpan Irn Bru, mi fydd yna bum gêm yn cael ei chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos…

Nos Wener, 22 Mawrth

Llandudno v Aberystwyth | Nos Wener – 19:45
Gyda dim ond pum gêm yn weddill ac wyth pwynt yn gwahanu Llandudno a diogelwch y 10fed safle, mae’n deg dweud y byddai rhywbeth llai na triphwynt bron yn ddi-werth i griw Maesdu.

Aeth Llandudno ar rediad o 17 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth rhwng Medi-Chwefror, ond mae pethau wedi gwella’n ddiweddar gyda’r tîm ond wedi colli un o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf (ennill 2, cyfartal 2, colli 1).

Mae Aberystwyth wedi ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf gan gadw’r pwysau ar Met Caerdydd yn y ras i gyrraedd y gemau ail gyfle.

Gemau diwethaf:
Aberystwyth 1-1 Llandudno (01/02/19)
Llandudno 0-1 Aberystwyth (20/10/18)
Aberystwyth 1-0 Llandudno (10/08/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Llandudno: ➖✅❌✅➖
Aberystwyth: ➖✅❌✅✅

Y Seintiau Newydd v Y Bala | Nos Wener – 19:45
Bydd Y Seintiau Newydd yn gobeithio dychwelyd i frig y tabl nos Wener wrth i griw Croesoswallt anelu am eu wythfed pencampwriaeth yn olynol.

Mae’r Seintiau ar rediad o 14 o gemau heb golli, yn cynnwys eu buddugoliaeth ddiwethaf yn y gêm allweddol honno oddi cartref yn erbyn Cei Connah (0-2).

Enillodd Y Bala yn erbyn Y Barri’r penwythnos diwethaf (0-2) i sicrhau eu buddugoliaeth cyntaf yn UG Cymru ers dydd San Steffan.

Mae’r ddwy gêm flaenorol rhwng y clybiau wedi gorffen yn gyfartal y tymor yma, ond tydi’r Seintiau erioed wedi colli yn erbyn Y Bala yn UG Cymru (ennill 19, cyfartal 11, colli 0).

Gemau diwethaf:
Y Bala 1-1 YSN (14/12/18)
YSN 0-0 Y Bala (21/09/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Y Seintiau Newydd: ✅✅➖✅✅
Y Bala: ❌ ➖❌❌✅

Dydd Sadwrn, 23 Mawrth

Llanelli v Derwyddon Cefn | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae posib y bydd Llanelli yn syrthio o’r cynghrair y penwythnos hwn – os bydd Caerfyrddin yn curo Met Caerdydd yna bydd rhaid i Llanelli guro’r Derwyddon os am osgoi’r cwymp am wythnos arall.

Ond bydd Llanelli’n cymryd hyder o’r ffaith mae’r Derwyddon yw’r unig glwb o UG Cymru sydd heb guro’r Cochion y tymor hwn.

Dyw’r Derwyddon heb ennill gêm gynghrair ar Barc Stebonheath ers Medi 2004.

Gemau diwethaf:
Derwyddon Cefn 0-0 Llanelli (02/02/19)
Llanelli 2-0 Derwyddon Cefn (17/11/18)
Derwyddon Cefn 2-3 Llanelli (18/08/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Llanelli: ➖❌❌❌❌
Derwyddon Cefn: ➖❌✅✅➖

Met Caerdydd v Caerfyrddin | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd Met Caerdydd yn gobeithio cymryd cam yn nes at selio’r 7fed safle er mwyn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle.

Mae’r myfrwyr ar rediad rhagorol – wedi ennill naw o’u 11 gêm ddiwethaf gan gadw wyth llechen lân yn y cyfnod hwnnw (sgorio 25, ildio 4).

Mae’r Hen Aur ar y llaw arall wedi colli pedair o’u chwe gêm ddiwethaf, ond heb golli dim un o’u tair gêm gynghrair yn erbyn Met Caerdydd y tymor yma.

Gemau diwethaf:
Caerfyrddin 1-0 Met Caerdydd (02/02/19)
Met Caerdydd 1-1 Caerfyrddin (28/10/18)
Met Caerdydd 3-1 Caerfyrddin (25/09/18) Ail Rownd Cwpan Nathaniel MG
Caerfyrddin 2-0 Met Caerdydd (01/09/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Met Caerdydd: ❌✅✅❌✅
Caerfyrddin: ✅❌✅❌❌

Y Barri v Caernarfon | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Barri wedi colli gafael ar y ceffylau blaen ar ôl pum gêm gynghrair heb fuddugoliaeth gan syrthio allan o’r ras am y bencampwriaeth.

Mae gorffen yn 3ydd wedi bod yn ddigon i sicrhau lle’n Ewrop yn y pedwar tymor diwethaf, a gyda’r Drenewydd bellach ond chwe phwynt o dan Y Barri, bydd Gavin Chesterfield yn benderfynol o guro’r Cofis brynhawn Sadwrn i agor bwlch rhwng y Dreigiau a’r Robiniaid.

Byddai buddugoliaeth i’r Canerîs yn eu gadael yn hafal ar bwyntiau gyda’r Drenewydd (4ydd) wrth i dîm Sean Eardley anelu i orffen mor uchel a sy’n bosib er mwyn sicrhau gêm gartref yn y gemau ail gyfle.

Gemau diwethaf:
Caernarfon 2-0 Y Barri (02/02/19)
Y Barri 2-1 Caernarfon (22/12/18)
Caernarfon 0-1 Y Barri (15/09/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Y Barri: ❌➖➖❌❌
Caernarfon: ✅❌❌❌✅

Bydd uchafbwyntiau holl gemau UG Cymru i’w gweld ar Sgorio bob prynhawn Llun am 5:35 ar S4C.