Rhagolwg Rownd Derfynol Cwpan Cymru

Cai Thomas

Cai Thomas

Dydd Gwener, 3 Mai 2019, 09:35

Cei Connah yw deiliaid y gwpan ar ôl ennill y gystadleuaeth am y tro cyntaf llynedd.

Y Seintiau Newydd yw’r gwrthwynebwyr, tîm sydd eisoes wedi cipio’r bencampwriaeth o afael Gei Connah’r tymor yma.

Dydd Sul, 5 Mai

Cei Connah v Y Seintiau Newydd | Dydd Sul – 14:45 (S4C)

Cyntaf yn erbyn ail, y deiliaid yn erbyn tîm mwyaf llwyddiannus y gwpan yn y degawd diwethaf – mae’r ystadegau’n dweud mai hon fydd y rownd derfynol fwyaf safonol a chystadleuol ers 15 mlynedd (2003/04 oedd y tro diwethaf i gyntaf ac ail yn y gynghrair gwrdd yn rownd derfynol Cwpan Cymru).

Mae Cei Connah wedi cyrraedd eu hail rownd derfynol y tymor hwn, ar ôl cyrraedd ffeinal Cwpan Irn Bru yr Alban, tra bod Y Seintiau Newydd yn anelu am eu 5ed Cwpan Cymru mewn 8 mlynedd.

Mi fydd Scott Ruscoe yn ceisio ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf fel rheolwr ac yn ceisio sicrhau bod y Seintiau’n ennill o leiaf dau dlws – camp mae’r Seintiau wedi ei gwblhau yn y 5 tymor diwethaf. 2013 oedd y tro diwethaf i’r Seintiau ennill y Bencampwriaeth yn unig. Os yw’r Seintiau’n llwyddo ar Y Graig dydd Sul, dyma fydd y seithfed tro i’r tîm o Groesoswallt ennill y gwpan.

Y Seintiau enillodd y ddwy gêm allweddol yn erbyn Cei Connah yn ail ran y tymor wrth ennill y ras am y Bencampwriaeth, ond Cei Connah enillodd y gêm ddiwethaf rhwng y clybiau yng Nghwpan Cymru yn Rownd yr Wyth Olaf y llynedd, ar y ffordd i godi’r tlws am y tro cyntaf yn eu hanes.

Cei Connah yn ceisio ymuno â’r Seintiau, Y Barri a Bangor fel yr unig dimau i ennill y gwpan ddwywaith yn olynol ers 1995 (ers i’r gystadleuaeth newid i gynnwys timau o’r pyramid Cymreig yn unig).

Y Seintiau Newydd yn ceisio cwblhau dwbl UG Cymru a Chwpan Cymru am y 6ed tro (3 dwbl, 2 trebl).

Y clybiau’n cwrdd am y 5ed tymor yn olynol yng Nghwpan Cymru: Cei Connah oedd y tîm diwethaf i guro’r Seintiau Newydd yn y gwpan (8 olaf 2018) a’r Seintiau Newydd yw’r unig dîm sydd wedi curo Cei Connah yn y gwpan ers 2013 (cynderfynol 2017 a 2016, 8 olaf 2015).

Cei Connah wedi colli dim ond 1 o’u 13 gêm ddiwethaf yng Nghwpan Cymru. Y Seintiau wedi colli dim ond 2 o’u 27 gêm ddiwethaf yng Nghwpan Cymru.

Gemau diwethaf:
Y Seintiau Newydd 1-0 Cei Connah (26/04/19)
Cei Connah 0-2 Y Seintiau Newydd (09/03/19)
Y Seintiau Newydd 3-0 Cei Connah (20/10/18)
Cei Connah 1-0 Y Seintiau Newydd (19/08/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Cei Connah: ✅❌✅➖❌

Bydd uchafbwyntiau Rownd Derfynol Cwpan Cymru i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 5:45 ar S4C.