Rhestr Fer Chwaraewr Ifanc y Tymor 2018/19

ifanc y tymor
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 22 Mai 2019, 14:26

Mae chwaraewr canol cae Y Seintiau Newydd a dau o sêr ifanc Y Barri wedi cael eu henwebu ar restr fer Chwaraewr Ifanc y Tymor yn Uwch Gynghrair Cymru 2018/19.

Am yr ail flwyddyn yn olynol mae Tom Holland o’r Seintiau Newydd wedi ei gynnwys ar restr fer Chwaraewr Ifanc UG Cymru. Gwnaeth Holland 28 (+1) ymddangosiad yn y gynghrair wrth i’r Seintiau gael eu dwylo ar y tlws am yr wythfed tymor yn olynol, yn ogystal ag ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers tair blynedd.

Ymunodd Robbie Patten â’r Barri o Chippenham ar ddechrau’r tymor ac mae wedi bod yn graig yng nghanol cae i’r clwb o Barc Jenner. Gwnaeth 27 (+1) ymddangosiad yn y gynghrair gan sgorio unwaith gyda’i dalcen gartref yn erbyn Llanelli. Cafodd ei wobrwyo am ei berfformiadau disglair drwy gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru C ym mis Mawrth.

Mae cyfraniad ymosodol Momodou Touray wedi bod yn allweddol i lwyddiant Y Barri’r tymor hwn. Ar fenthyg o Gasnewydd, fe wnaeth y blaenwr 28 (+3) ymddangosiad yn y gynghrair gan sgorio 13 o goliau. Touray oedd prif grêwr goliau Y Barri’r tymor yma gyda saith ‘assist’ yn UG Cymru 2018/19.

Enillwyr blaenorol:
2017/18 – Luke Wall (Bangor)
2016/17 – Henry Jones (Bangor)
2015/16 – James Murphy (Airbus UK)
2014/15 – Sean Miller (Cei Connah)
2013/14 – Sam Finley (Y Seintiau Newydd)
2012/13 – Ryan Fraughan (Y Seintiau Newydd)
2011/12 – Kai Edwards (Castellnedd)

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn noson wobrwyo’r cynghrair yn Ewloe ar nos Sadwrn, 1 Mehefin.