Rownd Derfynol Cwpan Merched Cymru yn fyw wrth i Sgorio arloesi.

trail board ELIN
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 9 Ebr 2019, 14:50

Bydd y gêm fawr rhwng Y Fenni a Met Caerdydd yn fyw ar dudalennau Facebook a YouTube Sgorio yn ogystal â wefan S4C ddydd Sul 14 Ebrill, cic gyntaf am 2 o’r gloch.

Wrth i Met Caerdydd a’u rheolwr Dr Kerry Harris anelu am y trebl domestig, bydd y Fenni yn ceisio codi’r cwpan ar ymddangosiad cyntaf erioed y clwb yn y rownd derfynol.

Bydd sylwebaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, gyda dwy gyn-chwaraewraig ryngwladol, Gwennan Harries a Nia Jones, yn rhan o dîm Sgorio, sy’n gweddarlledu rownd derfynol prif gwpan y merched yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.