Rownd Gynderfynol Cwpan Cymru

Football – FAW Welsh Cup – Final – Aberystwyth Town v Connahs Quay Nomads

Mae’n benwythnos Cwpan Cymru a dim ond pedwar tîm sy’n weddill! Bydd Dreigiau’r Barri yn herio Seintiau Scott Ruscoe, cyn i’r Nomadiaid geisio dysgu gwers i fyfyrwyr y Met – i gyd ar Barc Latham ac yn fyw ar Sgorio.

Mae pob un o’r pedwar clwb sydd ar ôl yn y Gwpan â phrofiad o ennill y gystadleuaeth – YSN a’r Barri wedi codi’r tlws ar chwe achlysur, Cei Connah yn ennill llynedd am y tro cyntaf yn eu hanes a Met Caerdydd yn ennill yn 1999 fel Inter Caerdydd.

Nos Sadwrn, 30 Mawrth

Y Seintiau Newydd v Y Barri | Nos Sadwrn – 19:30 (S4C)
Ar ôl rhoi crasfa i’r Cofis y penwythnos diwethaf, mae’r hyder wedi dychwelyd yn ôl i’r Barri.

Mi fydd y Dreigiau’n ceisio cyrraedd Rownd Derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers 2003, sef y tro diwethaf i’r Barri ennill y Gwpan.

Yn sefyll yn eu ffordd y mae’r Seintiau Newydd – yr unig dîm o UG Cymru dyw’r Barri heb eu curo eleni.

Ar ôl sgorio wyth gôl yn erbyn Llandudno yn Rownd yr Wyth Olaf, mae’r Seintiau Newydd wedi cyrraedd y Rownd Gynderfynol am y seithfed tro mewn wyth tymor.

Mae’r Seintiau wedi ennill Cwpan Cymru ar chwech achlysur, ond wedi methu cael eu gafael ar y tlws ers trechu Airbus yn y rownd derfynol yn 2016.

Mae’r Barri eisoes wedi trechu Penybont, Derwyddon Cefn a Cambrian a Clydach yng Nghwpan Cymru eleni, tra bod YSN wedi curo Cwmbrân Celtic, Airbus UK a Llandudno i gyrraedd y rownd gynderfynol.

Gemau diwethaf:
Y Seintiau Newydd 2-2 Y Barri (16/02/19)
Y Barri 0-2 Y Seintiau Newydd (17/11/18)
Y Seintiau Newydd 5-1 Y Barri (12/08/18)

Dydd Sul, 31 Mawrth

Met Caerdydd v Cei Connah | Dydd Sul – 12:30 (Facebook Live)
Yn dilyn y siom o golli yn Rownd Derfynol Cwpan Irn Bru’r penwythnos diwethaf, mae cyfle i ddeiliaid Cwpan Cymru gyrraedd eu hail ffeinal o’r tymor gyda buddugoliaeth ar ddydd Sul.

Yn eu herio bydd Met Caerdydd – tîm sydd wedi curo’r Nomadiaid mewn gêm Rownd Gynderfynol yn barod y tymor hwn – yng Nghwpan Nathaniel MG ar eu ffordd i ennill y tlws am y tro cyntaf yn hanes y clwb.

Os yw’r deiliaid, Cei Connah, yn llwyddo i ennill y cwpan eto’r tymor hwn, bydda nhw’n ymuno â’r Seintiau, Y Barri a Bangor fel yr unig dimau i ennill y gwpan ddwywaith yn olynol ers 1995 (ers i’r gystadleuaeth newid i gynnwys timau o’r pyramid Cymreig yn unig).

Mae Cei Connah wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru am y pedwerydd tymor yn olynol ac ond wedi colli un o’u 12 gêm ddiwethaf yn y gystadleuaeth.

Yn 1999 fe enillodd Inter Caerdydd Gwpan Cymru, ond ers i Inter Caerdydd uno gyda UWIC i greu clwb Met Caerdydd, dyma’r pellaf y mae nhw wedi ei gyrraedd yn y gystadleuaeth.

Mae Cei Connah wedi curo Cegidfa, Caerfyrddin a Chaernarfon i gyrraedd y Rownd Gynderfynol, tra bo Met Caerdydd wedi trechu Ton Pentre, Aberystwyth a’r Bala.

Gemau diwethaf:
Cei Connah 6-1 Met Caerdydd (22/12/18)
Cei Connah 0-1 Met Caerdydd – Rownd Gynderfynol Cwpan Nathaniel MG (24/11/18)
Met Caerdydd 1-3 Cei Connah (07/10/18)

Bydd uchafbwyntiau Rownd Gynderfynol Cwpan Cymru i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 5:35 ar S4C.