Rownd Gynragbrofol Cynghrair Europa

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 11 Meh 2019, 12:20

Bydd y Barri yn wynebu Cliftonville o Ogledd Iwerddon a bydd Met Caerdydd yn wynebu Progrès Niederkorn yn rownd gynragbrofol Cynghrair Europa.

Mae’r Barri yn dychwelyd i Ewrop am y tro cyntaf ers 2003, gyda’r clwb wedi cynrychioli Cymru’n Ewrop ar ddwsin o achlysuron, yn cynnwys gemau enwog yn erbyn Dinamo Kyiv a Porto.

Trechwyd eu gwrthwynebwyr Cliftonville, gyrhaeddodd Ewrop drwy ennill gemau ail gyfle, gan y Seintiau Newydd yn 2011 – y tro diwethaf i’r clwb wynebu tîm o Gymru.

Gorffennodd Progrès Niederkorn, gwrthwynebwyr myfyrwyr y Met, yn bedwerydd yng Nghynghrair Lwcsembwrg y tymor diwethaf.

Y tro diwethaf i dîm o Gymru wynebu tîm o Lwcsembwrg yn Ewrop oedd 2015, pan chwaraeodd y Bala yn erbyn FC Differdange 03, clwb sydd wedi’i leoli ddwy filltir yn unig o Progrès Niederkorn

Hwn fydd ymddangosiad cyntaf Met Caerdydd ar ei newydd wedd yn Ewrop – chwaraeodd y clwb fel Inter Caerdydd yn Ewrop am y tro diwethaf yn 1999.

Roedd Cliftonville a Progrès Niederkorn yn ddau o’r tri deiliaid uchaf yn y rownd gynragbrofol, tra’r oedd y Barri a Met Caerdydd yn ddau o’r pedwar tîm isaf yn yr het.

Bydd cymalau cyntaf y gemau’n cael eu chwarae ar Fehefin 27, gyda’r ail gymalau wythnos yn ddiweddarach (04/07)