Ryan Giggs yn enwi ei garfan i wynebu Slofacia a Chroatia

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 3 Hyd 2019, 15:09

Mae rheolwr Cymru, Ryan Giggs wedi cyhoeddi ei garfan i wynebu Slofacia a Chroatia ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2021 wythnos nesaf.

Mae Giggs yn croesawu’r capten, Ashley Williams yn ôl i’r garfan ar ôl methu gemau yn erbyn Azerbaijan a Belarws fis Medi.

Mae Aaron Ramsey yn dychwelyd i’r garfan ar ôl methu holl gemau’r grŵp hyd yma oherwydd diffyg ffitrwydd ar ôl dioddef o anaf am gyfnod hir.

Mae Ramsey wedi creu argraff ers iddo ymuno â Juventus yn yr Haf gan lwyddo i rwydo ei gôl gyntaf ar ei ymddangosiad cyntaf ar ôl dod ’mlaen fel eilydd.

Hefyd yn dychwelyd, mae’r ymosodwyr Tyler Roberts a Rabbi Matondo.

Mae Matondo, sgoriodd ei gôl gyntaf dros Schalke yn y Bundesliga yr wythnos diwethaf, yn dychwelyd ar ôl gwella o anaf diweddar.

Mae asgellwr Cymru, Tom Lawrence, gafodd ei gyhuddo o yfed a gyrru yr wythnos ddiwethaf, wedi ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Slofacia a Croatia.

Cafodd Lawrence, 25, ei gyhuddo yn dilyn digwyddiad ar ôl noson allan gyda’i gyd-chwaraewyr i glwb Derby County.

Mae Cymru yn bedwerydd yng ngrŵp E, ond wedi chwarae un gêm yn llai na’r timau eraill.

Bydd Cymru’n herio Slofacia yn stadiwm Antona Malatinského ar nos Iau, 10 Hydref, cyn croesawu Croatia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 13 Hydref. Y cyfan yn fyw ar S4C.

Y garfan yn llawn:

Gôl-geidwaid
Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Stoke)

Amddiffynwyr
Chris Gunter (Reading), Ashley Williams (Bristol City), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Neil Taylor (Aston Villa), Connor Roberts (Abertawe), Ethan Ampadu (Leipzig – ar fenthyg o Chelsea), Chris Mepham (Bournemouth), Tom Lockyer (Charlton), Joe Rodon (Abertawe).

Canol cae
Aaron Ramsey (Juventus), Joe Allen (Stoke), Jonny Williams (Charlton), Harry Wilson (Bournemouth – ar fenthyg o Lerpwl), Matthew Smith (Queens Park Rangers – ar fenthyg o Manchester City), Daniel James (Manchester United), Will Vaulks (Caerdydd), Joe Morrell (Lincoln – ar fenthyg o Bristol City).

Ymosodwyr
Gareth Bale (Real Madrid), Sam Vokes (Stoke), Tom Lawrence (Derby County), Tyler Roberts (Leeds United), Rabbi Matondo (Schalke 04), Kieffer Moore (Wigan).