Sgorio

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 28 Ion 2019, 12:47

Holl gyffro Cwpan Cymru JD sydd dan sylw’r wythnos hon, wrth i gamerau Sgorio ddod ag uchafbwyntiau o bob un o wyth gem y bedwaredd rownd. Bydd y prif sylw i’r gem enfawr rhwng gelynion y gogledd – Bangor a Chaernarfon – ond sylw hefyd i bob sioc a phob gol yn y gemau eraill. Mae hi’n addo bod yn rhaglen lawn dop o gyffro a drama’r gwpan yng nghwmni Morgan Jones.

Sgorio, nos Lun am 5:30 ar S4C.