SGORIO

NCM_1448
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 4 Chw 2019, 09:53

Mae ail ran y tymor yn dechrau’n Uwch Gynghrair Cymru JD ac mae’r ras am y Bencampwriaeth yn wenfflam, gyda’r Barri, Cei Connah a’r pencampwyr presennol, Y Seintiau Newydd, yn y ras. Bydd cyffro’r ras am y gemau ail gyfle a’r frwydr i osgoi’r cwymp yn y hanner isaf hefyd yn cael sylw Morgan Jones ar Sgorio, nos Lun am 5:30 ar S4C.

Gyda dim ond 10 gêm gynghrair yn weddill, bydd pob gôl, tacl ac arbediad yn allweddol hyd ddiwedd y tymor a bydd Sgorio’n dangos yr holl uchafbwyntiau. I ddechrau ail ran y tymor, bydd sylw I daith Y Barri i’r Oval i wynebu Caernarfon a Chei Connah yn teithio i’r Drenewydd.