Sgorio – Cei Connah v Ross County

irn
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 21 Maw 2019, 01:14

Rownd derfynol Cwpan Her Irn Bru yn fyw o Stadiwm Caledonian, Inverness prynhawn Sadwrn am 4, gyda’r gic gyntaf am 4:30. Ers i dimau o wledydd eraill gael eu gwahodd i Gwpan Her yr Alban yn 2016, Cei Connah yw’r clwb cyntaf o du allan i gyrraedd y rownd derfynol. Gyda’r Albanwr Andy Morrison wrth y llyw, bydd y Nomadiaid yn anelu am eu hail gwpan mewn llai na blwyddyn ond mae Ross County’r gwrthwynebwyr yn cael tymor gwych ym Mhencampwriaeth yr Alban. Y cyffro i gyd yng nghwmni Gareth Roberts a gôl-geidwad Cymru, Owain Fôn Williams.