Sgorio – Dydd Llun am 5:30, S4C

Capture
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 11 Chw 2019, 11:05

Wrth i’r ras ar y brig boethi, bydd uchafbwyntiau pob gêm allweddol o Uwch Gynghrair Cymru JD i’w gweld. Bydd Y Seintiau’n croesawu’r cymdogion y Drenewydd i Neuadd y Parc, tra bydd Cofis Caernarfon yn ymweld â Stadiwm Glannau Dyfrdwy i wynebu Cei Connah.

Caiff hanner isa’r tabl sylw hefyd, yn enwedig y gêm allweddol yn y frwydr i aros yn y gynghrair rhwng Llandudno a Chaerfyrddin. Morgan Jones sy’n ein tywys drwy’r cyfan nos Lun am 5:30 ar S4C.