Sgorio Rhyngwladol – Cymru v Azerbaijan

azer home
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 5 Medi 2019, 12:50

Gêm ragbrofol Euro 2020 rhwng Cymru ac Azerbaijan yn fyw nos Wener am 19:25, gyda’r gic gyntaf am 19:45.

Ar ôl dechrau addawol i’r ymgyrch, mae dwy golled yn y ddwy gêm ddiwethaf wedi rhoi gobeithion Cymru o gyrraedd Euro 2020 yn y fantol o ddifrif. Wrth wynebu Azerbaijan, tîm gwanna’r grwp, bydd dim llai na buddugoliaeth yn dderbyniol i Ryan Giggs a’i garfan.

Cyfle nos yfory o’r diwedd i roi’r ymgyrch ragbrofol Ewro 2020 nôl ar y cledrau ar ôl y siom o golli yn erbyn Croatia a Hwngari yn ôl ym mis Mehefin.

Mis Mehefin oedd y tro cyntaf i Gymu golli dwy gêm ragbrofol yn olynol ers 2013, a budd Ryan Giggs yn gobeithio am well yn erbyn Azerbaijan – gwlad dyw Cymru erioed wedi colli yn erbyn.

Carfan
Wrth gyhoeddi’r garfan yn wreiddiol enwodd Giggs dri chwaraewr heb gap sef Joe Rodon, Joe Morrell a Kieffer Moore.

Ychwanegwyd pedwerydd pan alwyd am Dylan Levitt, chwaraewr ifanc o Man Utd, wedi i Aaron Ramsey orfod tynnu allan o’r garfan oherwydd diffyg ffitrwydd.

Nid yw Ashley Williams yn y garfan, felly Gareth Bale yw capten Cymru ar gyfer y gêm.


Grŵp E

Byddai ennill nos yfory yn golygu bod Cymru’n cau’r bwlch ar o leiaf ddau dîm sydd uwch eu pennau (Hwngari sydd heb gêm a Slofacia neu/a Croatia sy’n chwarae ei gilydd).

Byddai gêm gyfartal yn Slofacia yn dod a Chymru o fewn pwynt i’r naill dîm a’r llall.

Hanes
Y tro cyntaf i’r gwledydd gwrdd oedd mewn gêm ragbrofol Ewropeaidd yn Tachwedd 2002 – Azerbaijan 0-2 Cymru, goliau gan Gary Speed a Rob Page, sydd bellach yn rhan o dîm hyfforddi Giggs.

Sam Vokes sgoriodd yr unig gôl y tro diwethaf i’r gwledydd gwrdd yng Nghaerdydd ag yntau ond yn 18 oed. Y gôl yn dod dim ond 7 munud o’r diwedd o flaen torf lawer llai (17,000). Y gêm union 11 mlynedd yn ôl i yfory.

Y cyfan yn fyw yng nghwmni Dylan Ebenezer, Nic Parry a’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol John Hartson, Gwennan Harries, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Yn fyw nos Wener am 19:25, gyda’r gic gyntaf am 19:45.