Sgorio Rhyngwladol – Cymru v Croatia

Football – UEFA Euro 2020 Qualifying Round Group E – Slovakia v Wales
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 12 Hyd 2019, 18:55

Nos Sul am 19:15, gyda’r gic gyntaf am 19:45, Cymru v Croatia yn fyw ar S4C, Pêl-droed byw o rowndiau rhagbrofol UEFA Euro 2020 yn fyw o Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ar ôl cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd y llynedd, dyw hi’n ddim syndod mai Croatia yw ceffylau blaen grwp rhagbrofol Cymru.

Er yr enwau mawr yng ngharfan Croatia fel Modric a Perisic, buddugoliaeth agos oedd hi dros Gymru ym mis Mehefin.

Gyda’r Wal Goch yn gefn, bydd Ryan Giggs yn gobeithio am ganlyniad gwell y tro hwn.

Y cyfan yng nghmwni Dylan Ebenezer, John Hartson, Gwennan Harries ac Owain Tudur Jones.