STM Sports yn cyrraedd rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG

49115812873_23730ec7d6_c
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 25 Tach 2019, 10:43

STM Sports o’r Cymru South yn camu ymlaen i rownd derfynol Cwpan y gynghrair ar ôl curo Aberystwyth 2-1, diolch i goliau gan Callum Bateman a Josh Graham.

Bydd STM Sports yn cystadlu yn rownd derfynol Cwpan Cynghrair Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl curo Aberystwyth 2-1 yn rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth.

Dyma’r tymor cyntaf i’r tîm gystadlu yn y gystadleuaeth hefyd, camp hanesyddol i’r tîm o’r Cymru South.

Llwyddodd Callum Bateman a Josh Graham sgorio i’r tîm o’r brifddinas ar ôl i Marc Williams rhoi’r ymwelwyr ar y blaen.

Bydd Cei Connah yn ymuno â STM Sports yn rownd derfynol y gwpan ar ôl curo’r Bala 2-0. Dyma’r tro cyntaf i’r Nomadiaid gyrraedd y rownd derfynol y gystadleuaeth ers ennill y gwpan yn 1996.

Ar ôl i’r rheolau newid ar ddechrau’r tymor, mi fydd enillwyr eleni yn cael y fraint o gystadlu yng Nghwpan Her Yr Alban y tymor nesaf.

Bydd rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG yn cael ei chwarae ar ddydd Sadwrn, 1 Chwefror gyda’r lleoliad eto i’w gadarnhau.