Taith Ewropeaidd Met Caerdydd a’r Barri’n dod i ben

European Football – UEFA Europa League – Final – Liverpool FC v Sevilla FC
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 5 Gor 2019, 09:42

Er i Met Caerdydd guro Progrès Niederkorn yn yr ail gymal yng Nghaerdydd, ac er i’r Barri gael gêm ddi-sgôr yn y cymal cyntaf yn erbyn Cliftonville, colli oedd hanes y ddau glwb o Uwch Gynghrair Cymru dros y ddau gymal yn rownd gynragbrofol Cynghrair Europa.

Roedd Met Caerdydd 1-0 ar ei hôl hi wedi’r cymal cyntaf yn Lwcsembwrg, ond aeth y myfyrwyr ar y blaen wedi llai na tri munud yn yr ail gymal trwy beniad Jordan Lam.

Er mae’r ymwelwyr oedd â’r rhan helaeth o’r meddiant, fe sgoriodd Met Caerdydd eto yn yr ail hanner wrth i Dylan Rees rwydo o’r smotyn yn dilyn trosedd ar Mael Davies.

Ond ar ôl sgorio’r unig gôl yn y cymal cyntaf, y blaenwr Mayron de Almeida rwydodd eto i Progrès i’w gwneud hi’n 2-1 ar y noson, ac roedd y gôl oddi cartref honno yn un hollbwysig.

Er pwyso a phwyso yn y munudau olaf, doedd dim ffordd yn ôl i Met Caerdydd ac fe orffenodd hi’n 2-1 yn Nghampws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, a’r sgôr yn 2-2 dros y ddau gymal gyda Progrès yn camu ymlaen i’r rownd nesaf drwy reol goliau oddi cartref.

_______

Yn dilyn eu gêm ddi-sgôr nos Iau diwethaf, roedd Y Barri’n mentro i Belffast gyda’r cyfan yn y fantol.

Ond Cliftonville aeth ar y blaen wedi 25 munud wrth i Conor McMenamin benio i’r rhwyd o gic gornel, cyn i Joe Gormley ddyblu’r fantais eiliadau cyn yr egwyl.

Brwydrodd Y Barri’n ddewr ond sgoriodd Conor McDermott a Rory Donnelly yn y 10 munud olaf, ac fe orffenodd hi’n 4-0 i’r clwb o Ogledd Iwerddon.

_______

Tro Cei Connah fydd hi i gystadlu yng Nghynghrair Europa nos Iau nesaf, 11 Gorffennaf, pan fydda nhw’n herio Kilmarnock yn y rownd ragbrofol gyntaf.

Ac mi fydd Y Seintiau Newydd hefyd yn dechrau ar eu hymgyrch Ewropeaidd nos Fawrth, 9 Gorffennaf, ac hynny yn erbyn Feronikeli o Kosovo.