Tymor newydd, amser newydd!

peny bont
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 12 Awst 2019, 10:00

Bydd darllediad byw Sgorio o Ben-y-Pont yn erbyn Y Barri, sef gêm fyw gynta’r tymor, yn cael ei ddarlledu am 19:55 nos Wener 16 Awst, gyda’r gic gyntaf am 20:00.

Mae amser darlledu Sgorio wedi newid ar gyfer y tymor newydd gyda gemau byw Uwch Gynghrar Cymru JD yn cael eu darlledu am 19:55 ar nos Wener.

Bydd camerâu Sgorio yn ymweld â Stadiwm Kymco ar gyfer gêm fyw gynta’r tymor, gyda Phen-y-bont yn croesawu’r Barri ar nos Wener 16 Awst, gyda’r gic gyntaf am 20:00.

Bydd hi’n achlysur hanesyddol i’r tîm cartref, dan law’r chwedlonol Rhys Griffiths, wrth iddyn nhw chwarae eu gêm gyntaf erioed ym mhrif adran pêl-droed Cymru.

Isod gweler rhestr o’r gemau byw sydd wedi cadarnhau:
16/08 – Pen-y-bont v Y Barri (20:00)
23/08 – Caerfyrddin v Y Drenewydd (20:00)
30/08 – Airbus v Caernarfon (20:00)