Y Bala v Caernarfon – yn fyw nos Sadwrn am 7:20

DwUyFjGXgAANy6G
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 10 Ion 2019, 10:02

Gyda’r ras am y Chwech Uchaf wedi cyrraedd ei therfyn, bydd camerau Sgorio yn dilyn pob cic yn y frwydr rhwng dau o dimau’r elît – y Bala a Chaernarfon.

Gyda sicrwydd nid yn unig o le’n y gynghrair y tymor nesaf ond o le’n y gemau ail gyfle Ewropeaidd hefyd bellach wedi eu sicrhau, bydd y ddau glwb yn ceisio o’u gorau i sicrhau diweddglo cofiadwy i ran gynta’r tymor.

Y Bala v Caernarfon | Nos Sadwrn – 19:30 (S4C)
Bydd hi’n 5ed yn erbyn 6ed ar Faes Tegid nos Sadwrn gyda’r Bala a Chaernarfon yn gobeithio gorffen rhan gynta’r tymor yn gryf cyn cystadlu yn y Chwech Uchaf.

Ar ôl curo Caerfyrddin 3-1 y penwythnos diwethaf fe sicrhaodd y Canerîs eu lle yn yr hanner uchaf yn eu tymor cyntaf ers dychwelyd i UG Cymru.

Trwy gyrraedd y Chwech Uchaf mae Caernarfon wedi sicrhau y byddan nhw’n gorffen yn eu safle uchaf ers 20 mlynedd, pan orffennon nhw’n 5ed yn 1998/99.

Dyw’r Cofis ond wedi colli un o’u naw gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth tra bo’r Bala wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf.

Gêm gyfartal oedd hi yn y gêm gyfatebol ar yr Oval gyda Danny Brookwell yn serennu ac yn sgorio dwy gôl gampus i Gaernarfon.

Canlyniadau diwethaf yn UGC:
Y Bala: ➖✅✅❌❌
Caernarfon: ✅❌➖➖✅