Y Bala yn camu i rownd derfynol y gemau ail gyfle

hen 2
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 10 Mai 2019, 21:14

Y Bala yn sicrhau eu lle yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ar ôl curo’r Drenewydd 1-2 ar Barth Latham.

Goliau gan Kieran Smith a Henry Jones yn sicrhau mae’r Bala fydd yn cystadlu am eu lle yn Ewrop y tymor nesaf yn rownd derfynol y gêmau ail gyfle.

Sgoriodd Joe Kenton yn hwyr i’r Drenewydd, ond gôl gysur oedd hi wrth i’r Bala ddal ymlaen i ennill y gêm.

Mae’r Bala yn anelu i gyrraedd Ewrop am y pumed tymor yn olynol, ac am y chweched tro yn eu hanes.

Bydd Y Bala yn wynebu Caerdydd neu Met Caerdydd yn y rownd derfynol, y ddau dîm yn wynebu eu gilydd yn yr ail rownd gynderfynol ar yr Oval nos Sadwrn yn fyw am 7:30.