Y Seintiau Newydd 2-0 Copenhagen

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 24 Gor 2019, 10:51

Y Seintiau Newydd yn colli o 2-0 gartref yng nghymal cyntaf ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn FC Copenhagen o Ddenmarc nos Fawrth.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen o fewn 20 munud gyda gôl gan Pieros Sotiriou.

Robert Skov yn dyblu’r fantais wedi awr o chwarae gyda cic o’r smotyn yn dilyn trosedd gan Keston Davies ar Sotiriou.

Mi fydd Scott Ruscoe a’i dîm yn teithio i Stadiwm Parken, Copenhagen ar gyfer yr ail gymal, nos Fercher nesaf.