Y Bala v Y Seintiau Newydd

Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Llun, 1 Ebr 2019, 15:35

Mae’r Seintiau eisoes wedi sicrhau eu lle yn Ewrop ond nos Fercher mi fydd hogiau Scott Ruscoe yn anelu i gymryd cam mawr tuag at y bencampwriaeth.

Nos Fercher, 3 Ebrill

Y Bala v Y Seintiau Newydd | Nos Fercher – 19:45
Ar ôl selio eu lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD y penwythnos diwethaf mi fydd Y Seintiau’n gobeithio cymryd cam yn nes at y bencampwriaeth nos Fercher wrth i griw Croesoswallt anelu am eu wythfed pencampwriaeth yn olynol.

Mae’r Seintiau ar rediad o 16 o gemau heb golli, yn cynnwys eu buddugoliaeth ddiwethaf yn UG Cymru yn erbyn Y Bala lai na pythefnos yn ôl (3-1).

Os bydd y Seintiau’n curo’r Bala nos Fercher yna mi fyddan nhw bedwar pwynt yn glir ar y copa gyda dim ond pedair gêm o’r tymor ar ôl.

Gemau diwethaf:
YSN 3-1 Y Bala (22/03/19)
Y Bala 1-1 YSN (14/12/18)
YSN 0-0 Y Bala (21/09/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Y Seintiau Newydd: ✅➖✅✅✅
Y Bala: ➖❌❌✅❌