Y Seintiau Newydd yn camu ‘mlaen yn Ewrop

66802036_2555085564549776_1472986904205983744_o
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 17 Gor 2019, 09:01

Sgoriodd Dean Ebbe unig gôl y gêm yng Nghosofo nos Fawrth i sicrhau bod pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn mynd ymlaen i ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Roedd y Seintiau yn edrych yn gyfforddus yn y cymal cyntaf ar ôl goliau gan Greg Draper ac Aeron Edwards, ond fe orffenodd hi’n 2-2 yn Neuadd y Parc wedi i Feronikeli rwydo dwy gôl yn hwyr yn y gêm.

Felly, roedd yn rhaid i’r Seintiau sgorio yng Nghosofo os am osgoi syrthio o’r gystadleuaeth drwy’r rheol goliau oddi cartref.

A bu’n rhaid i dîm Scott Ruscoe ddisgwyl tan y 25 munud olaf i wneud hynny.

Daeth Dean Ebbe ymlaen fel eilydd wedi 66 munud, a gyda’i gyffyrddiad cyntaf, fe beniodd i gefn y rhwyd yn dilyn croesiad o’r dde gan Simon Spender i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Seintiau (3-2 dros y ddau gymal).

Mae Ebbe wedi profi i fod yn dipyn o arf mewn gemau Ewropeaidd, gan mae hon oedd ei bumed gôl yn Ewrop yn dilyn ei bedair gôl yr haf diwethaf.

Bydd Y Seintiau yn herio Copenhagen yn y rownd nesaf, gyda’r cymal cyntaf i’w chwarae yn Neuadd y Parc nos Fawrth, 23 Gorffennaf, a’r ail gymal oddi cartref wythnos yn ddiweddarach.