Y Seintiau Newydd yn croesawu Copenhagen

883A8088e

Ar nos Fawrth, 23 Gorffennaf bydd pencampwyr Cymru yn herio pencampwyr Denmarc yng nghymal cyntaf ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Ar ôl trechu Feronikeli o Cosofo yn y rownd ddiwethaf, mae’r Seintiau Newydd nawr yn anelu i gyrraedd trydedd rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr am ond yr eildro yn eu hanes.

Ond mi fydd hi’n dipyn o her yn erbyn cewri Denmarc, FC København (neu FCK).

Chwaraeon nhw yn erbyn Caerfyrddin yn ail rownd ragbrofol Cwpan UEFA yn 2005/06 gan ennill 4-0 dros ddau gymal.

Tymor 2006/07 oedd y tro cyntaf i FCK gystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr ac fe lwyddon nhw i gyrraedd rownd y grwpiau gyda Benfica, Man Utd a Celtic (4ydd yn y grŵp).

Er peidio colli gêm gartref (Benfica 0–0, curo Man Utd 1–0 a Celtic 3–1) aeth FCK allan am golli eu tair gêm oddi cartref.

Ers hynny mae Copenhagen wedi cyrraedd rownd y grwpiau yn Ewrop ar 12 achlysur (UCL 4, UEL 8)

Dim ond unwaith yn yr 13 blynedd diwethaf y mae Copenhagen wedi methu cyrraedd rownd y grwpiau yn Ewrop, hynny yn 2015/16, sef y flwyddyn pan chwaraeon nhw yn erbyn Y Drenewydd.

Enillodd Copenhagen 5-1 dros ddau gymal yn erbyn Y Drenewydd yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa cyn colli’r rownd nesaf yn erbyn FK Baumit Jablonec (Czech) ar reol goliau oddi cartref (3-3).

Mae Copenhagen wedi chwarae dros 200 o gemau yn Ewrop gan fwynhau buddugoliaethau yn erbyn timau mawr megis Lazio, Ajax, Celtic, Man Utd, APOEL, Sparta Prague, BATE Borisov, a Galatasaray.

2010/11 – Cyrhaeddodd Copenhagen 16 olaf Cynghrair y Pencampwyr yn dilyn gêm gyfartal gyda Barcelona yn y grŵp – ond yna colli yn erbyn Chelsea dros ddau gymal yn yr 16 olaf.

2016/17 – Cyrraedd 16 olaf Cynghrair Europa cyn colli yn erbyn Ajax.

2017/18 – Cyrraedd 32 olaf Cynghrair Europa cyn colli yn erbyn Atletico Madrid.

Bydd enillwyr y rownd hon yn mynd ymlaen i’r drydedd rownd ragbrofol i herio Red Star Belgrade neu HJK Helsinki.

Pe bae’r Seintiau’n colli yna fe fyddan nhw’n syrthio i drydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa i wynebu unai Ludogorets Razgrad o Fwlgaria neu Valur Reykjavik o Wlad yr Iâ.