Y Seintiau Newydd yn ennill Cwpan Cymru

Football – FAW JD Welsh Cup Final – Connah’s Quay Nomads FC v The New Saints FC
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 5 Mai 2019, 23:59

Y Seintiau Newydd yn cwblhau dwbl UG Cymru a Chwpan Cymru am y 6ed tro (3 dwbl, 3 trebl) ar ôl trechu Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru 0-3 ar Y Graig, cartref Derwyddon Cefn.

O flaen torf o 1,256 ar Y Graig, cartref Derwyddon Cefn llwyddodd Y Seintiau Newydd i ennill eu 7fed Cwpan Cymru ar ôl curo deiliaid y gwpan, Cei Connah.

Sgoriodd Greg Draper ar ôl chwe munud i roi pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru ar y blaen cyn i Ryan Brobbel ddyblu’r fantais gyda cic-rydd arbennig o’r asgell chwith i gornel bellaf y gôl.

Llwyddodd Brobbel i rwydo ei ail, cic-rydd eto yn curo golwr Cei Connah, John Danby, wrth i’r Seintiau ymestyn eu mantais.

Fe aeth hi o ddrwg i waeth i dîm Andy Morrison pan roedd rhaid i Andy Owens adael y cae ar ôl derbyn ei ail gerdyn melyn.

Dyma 7fed Cwpan Cymru’r Seintiau Newydd, gyda’r clwb yn codi’r tlws ar pum achlysur yn yr wyth mlynedd diwethaf.