Y Seintiau Newydd yn sicrhau pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru am yr wythfed tymor yn olynol

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 13 Ebr 2019, 23:02

Mae’r Seintiau Newydd wedi eu coroni’n bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru am yr 8fed tymor yn olynol ar ôl buddugoliaeth o 0-4 yn erbyn y Barri.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 7 munud diolch i foli Greg Draper, cyn i Jamie Mullan ac Aeron Edwards gynyddu eu mantais wedi 70 munud a Jon Routledge yn rhwydo’r bedwardedd yn funudau olaf y gêm.

Y Seintiau Newydd yw tîm mwyaf llwyddiannus holl hanes UG Cymru, ac mi fydd y clwb nawr yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair y Pencampwyr dros yr haf.

Cyn hynny, mi fydd bechgyn Scott Ruscoe yn croesawu Caernarfon i’w cartref yn Neuadd y Parc nos Sadwrn o flaen camerau byw Sgorio, ac yn cael eu cyflwyno gyda thlws trawiadol Uwch Gynghrair Cymru JD.