Ynysoedd Ffaroe 0-6 Cymru

Football – UEFA Women Euro 2021 – Qualifying Group C – Faroe Islands v Wales
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 30 Awst 2019, 09:11

Dechreuad addawol i dîm merched Cymru wrth iddynt drechu Ynysoedd Ffaroe o 0-6 yn y gêm gyntaf yn eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2021.

Daeth y ddwy gôl gyntaf wedi 6 munud yn unig wrth i Tash Harding benio croesiad Rhiannon Roberts heibio’r golwr i gefn y rhwyd.

Fe lwyddodd Emma Jones i ddyblu’r fantais a sgorio ei gôl gyntaf dros Gymru – 90 eiliad yn ddiweddarach.

Fe sgoriodd ymosodwr Reading ei hail gôl o’r noson gyda chic o’r smotyn yn dilyn trosedd ar Kayleigh Green, cyn i Durita Hummeland wyro’r bêl i’w rhwyd ei hun ar ôl 67 munud.

A gyda 10 munud yn weddill, fe rwydodd Harding ei thrydedd o’r noson i’w gwneud hi’n 5-0 a Roberts yn coroni’r fuddugoliaeth gyda pheniad cywir i gornel uchaf y rhwyd.