5-y-penwythnos

thumbnail_5 y pen 16×9

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Dave Roberts (Airbus UK)
Y golwr profiadol Dave Roberts yn cadw ei le yn 5-y-penwythnos wedi perfformiad ardderchog yn fyw ar gamerâu Sgorio nos Sadwrn. Fe gadwodd lechen lân am y tro cyntaf yn y gynghrair y tymor hwn ar ôl gwneud sawl arbediad campus yn erbyn Y Drenewydd wrth i’r gêm orffen yn ddi-sgôr.

Eliot Evans (Met Caerdydd)
Dangosodd Eliot Evans dechneg ardderchog i sgorio hanner foli hyfryd yn erbyn Caernarfon nos Sadwrn. Y gôl yma’n selio buddugoliaeth gadarn i’r myfyrwyr yng Nghampws Cyncoed yn erbyn y Cofis.

Jamie Reed (Derwyddon Cefn)
Am ffordd i ddychwelyd i’r Uwch Gynghrair! Sgoriodd Jamie Reed ddwy gôl ar Faes Tegid wrth i’r Hynafiaid gipio triphwynt annisgwyl yn erbyn Y Bala nos Sadwrn. Mi fydd Reed yn chwaraewr allweddol i Cefn yn y ras am y seithfed safle os yw’n parhau i sgorio goliau i dîm Huw Griffiths.

Kayne McLaggon (Y Barri)
Ychwanegodd Kayne McLaggon ddwy gôl arall i’w gyfanswm yn erbyn Caerfyrddin dros y penwythnos. McLaggon sgoriodd y gôl gyntaf o’r gêm cyn dyblu mantais Y Barri gyda chic siswrn anhygoel i gefn y rhwyd.
Mae McLaggon wedi sgorio pum gôl yn ei chwe gêm ddiwethaf yn UGC ac yn brif sgoriwr Y Barri gyda 13 gôl gynghrair.

Mo Touray (Y Barri)
Ar ôl dechrau araf i’r tymor mae Mo Touray yn ôl ar ei orau – sgoriodd Touray y drydedd gôl yn ogystal â chreu dwy gôl wrth i’r Barri chwalu Caerfyrddin 7-1 ar Barc Jenner. Touray oedd Chwaraewr Ifanc y Tymor Uwch Gynghrair Cymru llynedd.