5-y-penwythnos

thumbnail_5 y pen 16×9

Sgorio sy’n dewis pum chwaraewr sydd wedi serennu dros benwythnos pedwaredd rownd Cwpan Cymru 2019/20.

Paul Harrison – Y Seintiau Newydd
Golwr profiadol Y Seintiau Newydd eto i ildio yn y gwpan y tymor yma wrth iddo arbed cic o’r smotyn Matthew Jones a chyfle hwyr Geoff Kellaway wrth i ddeiliaid Cwpan Cymru guro Aberystwyth 4-0.

Mae’r golwr wedi ennill pum Cwpan Cymru yn ei amser yn Y Seintiau Newydd, gyda’r tîm yn edrych ’mlaen am gêm gartref yn erbyn Y Drenewydd yn rownd yr wyth olaf.

Alex Titchiner – Y Fflint
Foli fendigedig Titchiner yn helpu’r Fflint i gyrraedd rownd yr wyth olaf wrth i dîm Niall McGuinness guro Bae Colwyn 3-2 ar Gae’r Castell.

Bydd Y Fflint yn wynebu Prestatyn, y ddau glwb o’r Cymru North yn rownd yr wyth olaf – sy’n sicrhau bydd clwb o’r ail haen yn cystadlu yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth.

Michael Bakare – Cei Connah
Roedd chwaraewr y tymor eto yn ddylanwadol i’r Nomadiaid gan sgorio ei hat-tric gyntaf i’r clwb wrth I Gei Connah guro Lido Afan 8-0.

Bydd Cei Connah yn croesawu Met Caerdydd i Stadiwm Glannau Dyfrdwy ar gyfer y rownd nesaf,

Jordan Davies – Prestatyn
Sgoriodd Davies unig gôl y gêm yn erbyn Prifysgol Abertawe wrth i’r dîm sydd ar frig y Cymru North guro’r tîm sydd ar frig y Cymru south 0-1.

Gôl hyfryd o bellter yn sicrhau gêm yn erbyn Y Fflint yn y rownd nesaf.

Darren Thomas – Caernarfon
Y Cofi Messi eto’n serennu i Gaernarfon gan sgorio ddwywaith yn y fuddugoliaeth 0-4 dros Rhydaman.

Sgoriodd ei gôl gyntaf o du allan i’r cwrt cosbi, ergyd nerthol yn taranu i mewn oddi ar y trawst cyn sgorio ei ail a’r bedwaredd i Gaernarfon munudau cyn y chwiban olaf.

Bydd Caernarfon yn wynebu Derwyddon Cefn ar Yr Oval yn rownd yr wyth olaf, gyda’r Cofis yn gobeithio cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru am yr eildro mewn tair blynedd.