5-y-penwythnos

thumbnail_5 y pen 16×9

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn y Cymru Premier dros y penwythnos.

Lewis Brass – Cei Connah
Llechen lan arall i golwr Cei Connah dros y penwythnos wrth i’r Nomadiaid guro’r Barri 0-1 ar Barc Jenner.

Dyma wythfed lechen lan y golwr y tymor yma – y nifer uchaf yn y gynghrair gyda Alex Ramsay a Dave Jones, sydd hefyd wedi cadw wyth llechen lan.

Triphwynt allweddol i Gei Connah wrth i’r tîm frwydro am y bencampwriaeth gan gau’r bwlch ar y brig i ddim ond un pwynt.

Lifumpa Mwandwe – Y Drenewydd
Perfformiad arbennig gan y gŵr sydd ar fenthyg o’r Amwythig, gyda’r Drenewydd yn curo’r Seintiau Newydd 1-2 ar Neuadd y Parc.

Fe greodd y gôl agoriadol i Alex Fletcher, cyn penio’r gôl fuddugol – dyma ei gôl gyntaf ers mis Rhagfyr a’i drydedd o’r tymor.

Eliot Evans – Met Caerdydd
Met yn cadw eu gafael ar y 7fed safle ar ôl y fuddugoliaeth o 3-1 dros Aberystwyth.

Llwyddodd Evans i serennu eto i’r Met gan sgorio ddwywaith yn y fuddugoliaeth.

Gôl hyfryd i agor y sgorio, fflic dros ben y golwr Connor Roberts o du allan i’r cwrt cosbi cyn sgorio ei ail o’r smotyn.

Chris Venables – Y Bala
Venables yn serennu eto yn y gêm fyw gan sgorio ddwywaith yn erbyn Caernarfon.

Er iddo fethu cic o’r smotyn yn yr hanner cyntaf sgoriodd i unioni’r sgôr yn fuan wedi’r egwyl cyn penio’r gôl fuddugol

Mae’r blaenwr profiadol ar frig y rhestr sgorwyr y tymor yma gyda 20 gôl gynghrair.

Jamie Reed – Derwyddon Cefn
Chwe gôl mewn tri ymddangosiad i’r ymosodwr profiadol ar ôl dychwelyd i’r Cymru Premier gyda Derwyddon Cefn.

Llwyddodd i greu argraff ddydd Sadwrn gan sgorio dwy a chreu un mewn buddugoliaeth o 2-3 dros Airbus.

Sgoriodd y gyntaf yn y cwrt chwech gan droi yn dda a phasio’r bêl i’r gornel isaf, gyda’i ail gôl yn gic rydd nerthol o bellter yn curo Oliver Byrne golwr Airbus.