5-y-penwythnos

thumbnail_5 y pen 16×9 (2)

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn y Cymru Premier JD dros y penwythnos.

Paul Harrison – Y Seintiau Newydd
Er i’r Seintiu Newydd golli yn erbyn Cei Connah, cafodd Paul Harrisson gêm dda iawn wrth atal Jamie Insall rhag sgorio yn yr hanner cyntaf ac arbed ergyd isel Michael Wilde yn yr ail hanner.

Un o golwyr gorau’r gynghrair ers rhai blynyddoedd, mae Harrison wedi chwarae pob eiliad i’r Seintiau Newydd y tymor hwn gan gadw saith llechen lân.

Lewis Harling – Pen-y-bont
Ail gôl Lewis Harling mewn dwy gêm gynghrair ers ymuno o Gaerfyrddin yn sicrhau buddugoliaeth gyntaf i Pen-y-bont dros Aberystwyth.

Dim ond ail fuddugoliaeth tîm Rhys Griffiths mewn deg gêm, a bydd rhaid pigo mwy o bwyntiau os am osgoi’r cwymp ar ddiwedd y tymor.

Elliot Scotcher – Caerfyrddin
Llwyddodd Scotcher i ddod a rhediad da diweddar y Derwyddon i ben wrth sgorio cic rydd arbennig heibio Michael Jones.

Dyma ail gôl Scotcher yn ei ddwy gêm gynghrair diwethaf a buddugoliaeth gyntaf yr Hen Aur dros Derwyddon Cefn ar Barc Waun Dew ers mis Mawrth 2015.

Dyw Caerfyrddin ond wedi colli un o’u chew gêm ddiwethaf, a bydd Kristian O’Leary yn gobeithio i’r rhediad barhau os yw’r Hen Aur am osgoi’r cwymp.

Niall Watson – Airbus UK
Gôl gyntaf Niall Watson yn sicrhau pwynt i Airbus UK oddi cartref yn Met Caerdydd.

Mae Airbus UK ar rediad o 14 gêm heb ennill ac yn eistedd ar waelod y gynghrair, ond gall y pwynt pwysig yma fod yn hwb enfawr i’r tîm wrth geisio ddringo allan o safleoedd y cwymp.

Craig Curran – Cei Connah

Llwyddodd Craig Curran i sgorio yn y fuddugoliaeth dros Y Seintiau Newydd sy’n ymestyn mantais Cei Connah i bedwar pwynt ar frig y gynghrair.

Y foli yn erbyn YSN oedd ail gôl Curran yn ei ddwy gêm gynghrair ddiwethaf.

Mae gan yr ymosodwr brofiad helaeth gan chwarae yn uwch gynghrair yr Alban gyda Dundee ac Adran 1 y Gynghrair Pêl-droed gyda Tranmere, ac fe all fod yn chwaraewr allweddol os yw Cei Connah am ennill y gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes.