5-y-penwythnos

5 y pen 16×9 (1)
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 3 Maw 2020, 10:16

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru JD.

Alex Ramsay – Caernarfon
Roedd golwr Cymru C, Alex Ramsay ar ei orau nos Wener gyda sawl arbediad arbennig i gadw llechen lân yn erbyn Derwyddon Cefn.

Cyn y fuddugoliaeth nos Wener, doedd Caernarfon heb ennill dim o’u tair gêm ddiwethaf yn erbyn Derwyddon Cefn.

Bydd Caernarfon yn wynebu Met Caerdydd yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ac yn gobeithio cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth am y tro cyntaf yn hanes y clwb.

Eliot Evans – Met Caerdydd
Seren Met Caerdydd yn creu’r ddwy gôl wrth i’r Myfyrwyr guro Cei Connah yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy.

Dyma’r tro cyntaf i Gei Connah golli yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ers mis Mawrth 2019.

Bydd Met yn wynebu Caernarfon yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD.

Sion Bradley – Caernarfon
Seren y gêm yn y gêm fyw wrth greu’r ail a sgorio’r drydedd mewn buddugoliaeth 4-0 dros Derwyddon Cefn.

Mae Caernarfon wedi ennill 4-0 ym mhob rownd o’r gwpan y tymor hwn!

Dean Ebbe – Y Seintiau Newydd
Pedair gôl i’r ymosodwr – a’i hat-tric cyntaf i’r Seintiau Newydd – yn y fuddugoliaeth 6-1 dros Y Drenewydd.

Mae deiliaid y gwpan wedi sgorio 19 gôl mewn tair gêm gwpan y tymor hwn (6.3 gôl y gêm).

Bydd Y Seintiau Newydd yn wynebu Y Fflint neu Prestatyn yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth.

Will Evans – Met Caerdydd
Will Evans yn sgorio’r gôl fuddugol i yrru’r Myfyrwyr i rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD.

Dyma wythfed gôl y tymor i Evans (7 UGC + 1 C.C), y mwyaf iddo sgorio mewn tymor i Met Caerdydd.

Bydd Met Caerdydd yn wynebu Caernarfon yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD.