5-y-penwythnos

thumbnail_5 y pen 16×9
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 10 Maw 2020, 09:42

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu yn y Cymru Premier dros y penwythnos.

Oliver Byrne – Airbus UK
Airbus UK yn ennill am y tro cyntaf ers mis Hydref 2019, buddugoliaeth bwysig oddi cartref yn erbyn Caerfyrddin sydd hefyd yn brwydro i aros yn yr uwch gynghrair.

Arbediadau da gan y golwr Oliver Byrne i gadw Airbus UK ar y blaen ac i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref ers mis Medi 2019.

Nathan Craig – Caernarfon
200fed ymddangosiad Nathan Craig i Gaernarfon, ac am berfformiad gan sgorio’r drydedd a chreu’r ail mewn buddugoliaeth 3-1 dros Y Drenewydd.

Sgoriodd gic rydd fendigedig heibio Dave Jones i rwydo gôl rhif 83 i’r Cofis – dipyn o record i gefnwr chwith!

Lewis Harling – Pen-y-bont
Lewis Harling yn sgorio tair gôl mewn tymor am y tro cyntaf ers 2013/14 a’i goliau yn codi Pen-y-bont allan o safleoedd y cwymp.

Sgoriodd Harling yr ail mewn buddugoliaeth dda yn erbyn Met Caerdydd sy’n agor bwlch o driphwynt rhyngddyn nhw a Gaerfyrddin sydd ar hyn o bryd yn eistedd yn safleoedd y cwymp.

Niall Watson – Airbus UK
Tair gôl mewn dwy gêm i Niall Watson gan iddo sgorio ddwywaith yn y fuddugoliaeth 1-3 dros Gaerfyrddin.

Dyma fuddugoliaeth gyntaf Airbus UK ers Hydref 2019, a’u buddugoliaeth gyntaf oddi-cartref ers mis Medi 2019.

Cody Ruberto – Derwyddon Cefn
Sgoriodd Ruberto ddwywaith yn y gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Aberystwyth ar Y Graig i godi ei record sgorio i saith gôl gynghrair y tymor yma.

Mae Derwyddon Cefn yn brwydro am y seithfed safle gyda Met Caerdydd, y ddau dîm â 35 pwynt gyda phum gêm yn weddill o’r tymor.