Caernarfon v Derwyddon Cefn | Cwpan Cymru

Caernarfon-32
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 28 Chw 2020, 12:35

Yn dilyn archwiliad o’r cae, mae’r gêm rhwng Y Fflint a Prestatyn wedi ei ohirio. Oherwydd y penderfyniad yma, bydd camerâu Sgorio yn fyw o’r Oval nos Wener lle bu’r Cofis yn croesawu Derwyddon Cefn. Darllediad byw yn dechrau am 19:55, gyda’r gic gyntaf am 20:00

Caernarfon v Derwyddon Cefn | Nos Wener – 19:45
Bydd rheolwr newydd Caernarfon, Huw Griffiths yn wynebu ei gyn-glwb ar yr Oval nos Wener gan obeithio arwain y Cofis i’r rownd gynderfynol am y tro cyntaf ers 2017.

Mae Caernarfon wedi trechu Goytre Utd (0-4) a Rhydaman (0-4) i gyrraedd yr wyth olaf, ond mi fydd hi’n her anoddach yn erbyn y Derwyddon sydd heb golli dim un o’u tair gêm ddiwethaf yn erbyn y Caneris.

Mae’r Derwyddon wedi ennill y gwpan ar wyth achlysur, ac wedi curo Cegidfa (2-0) a Phontardawe (2-0) i ddod cyn belled y tymor hwn.

Cyrhaeddodd y Derwyddon y rownd derfynol yn 2012 (colli 2-0 vs YSN), ond ers hynny dyw hogiau’r Graig heb lwyddo i fynd heibio’r bedwaredd rownd tan eleni.

Gemau diwethaf:
Derwyddon Cefn 3-1 Caernarfon (18/10/19)
Caernarfon 1-1 Derwyddon Cefn (26/08/19)