Cei Connah v Y Bala – Yn fyw ddydd Sadwrn ar S4C

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 10 Medi 2020, 12:37

Mae pêl-droed yn ei ôl ac mae Sgorio’n ôl! Ar ôl i’r tymor diwethaf ddod i ben yn gynnar, coronwyd Cei Connah yn Bencampwyr am y tro cyntaf yn eu hanes, gan ddod â rhediad y Seintiau o 8 Pencampwriaeth yn olynol i ben. Maen nhw’n dechrau’r ymgyrch newydd gyda her a hanner gartref yn erbyn y Bala, brofodd eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn Ewrop dros yr haf. Holl gyffro dechrau’r tymor yng nghwmni Dylan Ebenezer. C/G 5.45.